Dydd Mercher, Mawrth 11, 2020: 12:00 - 13:30
I nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2020, rydym yn estyn gwahoddiad i chi ymuno â ni wrth i ni ddathlu cyfraniad menywod ar draws Diwydiant Trafnidiaeth Cymru. Bydd y digwyddiad hwn yn dod â chydweithwyr o wahanol feysydd mewn diwydiant ynghyd i gael ysbrydoliaeth, i drafod ac i rwydweithio. Noddir y digwyddiad gan Vikki Howells AC a bydd Ken Skates AC, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, yn ymuno â ni hefyd. Wedi areithiau agoriadol, bydd trafodaeth banel yn rhoi sylw i pam mae cydraddoldeb rhyw yn bwysig ar gyfer darparu trafnidiaeth a sut y gallwn ysbrydoli mwy o fenywod i ymuno â'r diwydiant a llwyddo ynddo. Mae'r digwyddiad yn agored i unrhyw un sy'n ymwneud â'r sector trafnidiaeth ac mae'n rhad ac am ddim. Mae cofrestru'n hanfodol.
Cefnogir y digwyddiad gan:
Sylwch y bydd cofrestriadau ar gyfer y digwyddiad hwn yn cael eu rheoli gan y Gymdeithas Cludiant Cymunedol a thrwy lenwi'r ffurflen gofrestru, rydych yn cydsynio i ddarparu'ch manylion at ddibenion gweinyddu'r digwyddiad.