Lansio Canolfan Menywod ym maes Trafnidiaeth Cymru | Women in Transport Wales Hub Launch
Diolch i chi am eich diddordeb yn ein digwyddiad, rydym yn awr yn llawn ac mae cofrestru ar gau / Thank you for your interest in our event, we are now fully booked and registration is closed.
Lansio Canolfan Menywod ym maes Trafnidiaeth Cymru
Ymunwch â ni yn y Senedd lle bydd Julie James AS a Jo Foxall, Arweinydd Canolfan Cymru a Chyfarwyddwr Ymgysylltu â Chwsmeriaid Trafnidiaeth Cymru, yn cyflwyno’r ganolfan ac yn taflu goleuni ar ymchwil a gyflawnwyd yn ddiweddar gan Chwarae Teg, sy’n rhoi darlun clir o fenywod sy’n gweithio ym maes trafnidiaeth ledled Cymru.
Byddwn yn croesawu rhai prif siaradwyr o bob rhan o’r diwydiant, a fydd yn rhannu eu gwybodaeth a’u profiad yn ogystal ag arfer gorau. Byddwn hefyd yn trafod cyfleoedd ar gyfer dyfodol y ganolfan, a bydd rhywfaint o amser i rwydweithio a chydweithio.
Menywod yw 47 y cant o weithlu’r DU, ond ni chânt eu cynrychioli’n ddigonol o hyd yn y sector trafnidiaeth; 20 y cant yn unig o weithwyr y sector hwnnw sy’n fenywod. Ein gweledigaeth ar gyfer Canolfan Menywod ym maes Trafnidiaeth Cymru yw y dylai fod yn ffynhonnell ganolog o gymorth a datblygiad proffesiynol i fenywod sydd eisoes yn gweithio yn y sector neu sy’n ystyried dilyn gyrfa yn y sector. Gyda help ein haelodau a’n tîm o wirfoddolwyr, rydym yn dyheu am gau’r bwlch rhwng y rhywiau drwy greu man lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu derbyn, eu clodfori a’u hysbrydoli.
Mae’r ganolfan wedi’i sefydlu mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru.
I fynychu’r digwyddiad, cofrestrwch yma.
Launch of the Women in Transport Wales Hub
Join us at the Senedd where MS Julie James and Wales Hub Lead and Transport for Wales Customer Engagement Director, Jo Foxall will introduce the hub and offer insight into Chwarae Teg’s recently conducted research, providing a clear picture of women working in transport across Wales.
We will be welcoming some keynote speakers from across the industry who will share their knowledge, experience, and best practice. We’ll also be discussing opportunities for the future of the hub, with some time for networking and collaboration.
Women make up 47 per cent of the UK workforce yet remain underrepresented in the transport sector accounting for only 20 per cent of workers. Our vision for Women in Transport Wales Hub is to provide a central point of support and professional development for women already working in or considering a career in the sector. With the help of our members and team of volunteers, we aspire to close the gender gap by creating a space where everyone feels accepted, celebrated, and inspired.
The hub has been set up in partnership with Welsh Government and Transport for Wales.
Open to members and non members.
To attend the event, please register here.